Disgrifiad
Mae Meinir Howells yn gyflwynydd teledu ac yn ffigwr adnabyddus yn y byd amaeth. Fe fydd y cofiant hwn yn adrodd stori y gyflwynwraig, y ffermwr a’r fam ac yn mynd o dan groen heriau’r byd amaeth. Magwyd Meinir ar fferm ei rhieni ger Llandeilo. Roedd yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd ac mae hi wedi ennill gwobrau am ei gwasanaeth i’r byd amaethyddol. Mae ganddi gysylltiadau lu fel cyflwynydd a chyfarwyddwr teledu. Mae Andrew Teilor yn actor ac yn awdur ac yn wyneb cyfarwydd. Cafodd ei gyfrol gyntaf, Pryfed Undydd, ganmoliaeth uchel.
Mae Meinir yn ffermio yn Shadog, ger Llandysul, gyda’i gŵr Gary a’u plant, Sioned a Dafydd. Mae ganddyn nhw tua 450 erw a 600 o ddefaid, yn ogystal â 200 o wartheg ac yn cynhyrchu 150 o hyrddod blwydd i’w gwerthu. Yn wythnosol mae hi’n cyflwyno straeon am fyd amaeth yng Nghymru a thu hwnt ar y gyfres Ffermio ar S4C. Mae hi hefyd wedi cyflwyno a chyfarwyddo rhaglenni y Sioe Fawr ar y BBC ac S4C. Oddi ar y sgrin, mae hi’n treulio ei hamser gyda’i theulu ifanc yn gofalu am y defaid a’r gwartheg ar fferm brysur y teulu ger Llandysul.